Rhif y ddeiseb: P-06-1281

Teitl y ddeiseb: Rhaid atal gollyngiadau carthion amrwd ar fyrder ym Mae'r Tŵr Gwylio a'r Hen Harbwr yn y Barri

Geiriad y ddeiseb:

Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i helpu i atal gollyngiadau carthion amrwd ar fyrder ym Mae'r Tŵr Gwylio a’r Hen Harbwr yn y Barri. Mae'r gollyngiadau hyn yn deillio o systemau gorlif carthffosydd cyfun ac mae mwy a mwy o garthffosiaeth yn cael ei ollwng oherwydd y nifer cynyddol o achosion o law trwm a welwn o ganlyniad i’r newid yn yr hinsawdd.

Cafodd y bae hwn ei ddynodi’n ddiweddar yn ardal sy’n cynnal bywyd gwyllt pwysig ac mae Bae’r Tŵr Gwylio yn cael ei ddefnyddio’n rheolaidd gan lawer o grwpiau nofio dŵr oer, padlfyrddwyr a chaiacwyr.

Gwybodaeth ychwanegol:

Rydym yn llawn sylweddoli bod gwastraff heb ei drin sy’n cael ei ryddhau o systemau gorlif carthffosydd cyfun yn broblem genedlaethol ac y bydd angen buddsoddi symiau mawr o arian yn ein rhwydwaith carthffosiaeth.

Ond credwn hefyd fod pobl Cymru yn dod yn fwyfwy ymwybodol o’r llygredd echrydus hwn a’u bod yn awyddus i weld camau’n cael eu cymryd i ddatrys y broblem hon.

Gwaetha’r modd, mae symiau enfawr o garthion heb eu trin yn cael eu rhyddhau’n gynyddol i'r môr ac yn anffodus nid oes unrhyw fannau monitro yn y bae (ac eto mannau monitro ym Mae Jacksons, Bae Whitmore a Bae Knap).

Galwn felly am i’r lleoliad hwn gael ei ychwanegu ar fyrder at restr Cyfoeth Naturiol Cymru o safleoedd samplu ansawdd dŵr ymdrochi.

Mae bae’r Tŵr Gwylio a’r Hen Harbwr yn cynnal bywyd gwyllt a phobl, felly dylai Dŵr Cymru roi blaenoriaeth i fuddsoddi yn y safleoedd hyn.

 


1.        Cefndir

Mae papur briffio diweddar gan Ymchwil y Senedd yn darparu’r cyd-destun deddfwriaethol ar gyfer gorlifoedd stormydd yng Nghymru. Mae hefyd yn trafod sut mae gorlifoedd stormydd yn cael eu rheoli, pa mor dda y deallir nhw, a sut maen nhw'n effeithio ar ansawdd dŵr.

Yn gryno, mae carthffosydd cyfun yn casglu carthion a dŵr ffo o ddraeniau a chwteri. Mae'r dŵr gwastraff hwn yn cael ei gludo i waith trin lle caiff ei lanhau a'i ddychwelyd i'r amgylchedd.

Mae gan bob system garthffosydd uchafswm o ddŵr gwastraff y gall ei dderbyn. Yn ystod glaw trwm, os oes mwy o ddŵr nag y gall y system ymdopi ag ef, caiff ei ryddhau mewn mannau sy’n cael eu galw’n ‘Orlifoedd Storm'  y cyfeirir atynt yn aml fel 'Draeniau Gorlif Carthffosydd Cyfun' neu 'Systemau Gorlif Storm Cyfun'.

Canfu Adroddiad Ansawdd Dŵr 2021 (y DU gyfan) gan Surfers Against Sewage :

In 2020 sewage was pumped into rivers and seas nationwide over 400,000 times, totalling over 3.1 million hours of pollution.

Mae gorlifoedd storm cyfun yng Nghymru yn cael eu caniatáu gan Gyfoeth Naturiol Cymru. Mae'r rhain yn ei gwneud yn ofynnol i’r Gorlifoedd gydymffurfio â safonau dylunio ac ansawdd dŵr a rhaid gofalu nad ydynt yn achosi unrhyw ddirywiad yn ansawdd presennol y dŵr derbyn.

Mae Dŵr Cymru yn nodi ei fod wedi buddsoddi £10.5 miliwn i wella’r broses o fonitro systemau gorlif storm cyfun ers 2015, a bod ganddo Fonitorau Hyd Digwyddiadau wedi’u gosod ar bron i 99 y cant o’i systemau gorlif storm cyfun i gofnodi nifer a hyd gollyngiadau.

Mae data Monitro Hyd Digwyddiadau yn cael eu rhannu'n flynyddol gyda Cyfoeth Naturiol Cymru ac mae ar gael i'r cyhoedd gan Dŵr Cymru. Nid yw'n glir pa orlifoedd storm cyfun penodol y mae'r deisebydd yn cyfeirio atynt. Fodd bynnag, mae'r data Monitro Hyd Digwyddiadau ar gyfer y Cymoedd a De-ddwyrain Cymru yn dangos nifer o ollyngiadau yn ardal y Barri ac o'i hamgylch.

Mae Dŵr Cymru yn dweud ei fod yn buddsoddi £42 miliwn ledled Cymru yn y Fframwaith Asesu Gorlifoedd Stormydd:

Dros y 5 mlynedd nesaf (2020-2025) bydd y rhaglen hon yn defnyddio data o'r safleoedd Monitro Hyd Digwyddiadau i flaenoriaethu asedau dŵr gwastraff i'w harchwilio, gyda'r nod o leihau nifer a chyfeintiau gollyngiadau dŵr stormydd i'r amgylchedd. Bydd hyn yn gwella gwerth amwynder cwrs dŵr ac ansawdd dŵr yn gyffredinol. Gan ddefnyddio data o'r safleoedd EDM, mae £15m pellach yn cael ei wario ar draws Cymru i leihau nifer yr arllwysiadau arfordirol yng nghyffiniau dyfroedd ymdrochi a physgod cregyn.

Samplu ansawdd dŵr ymdrochi

Mae 105 o ddyfroedd ymdrochi yng Nghymru, a ddynodwyd o dan Reoliadau Dŵr Ymdrochi 2013. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gyfrifol am fonitro dyfroedd ymdrochi dynodedig a rhannu’r canlyniadau â’r cyhoedd.

Mewn ymateb i'r ddeiseb hon, mae Llywodraeth Cymru yn egluro:

Yn y Barri, mae Cold Knapp, Bae Whitmore a Bae Jackson wedi’u dynodi’n ddyfroedd ymdrochi, ac mae ansawdd dŵr y traethau hyn wedi’u categoreiddio, yn yr un drefn, yn Ardderchog, Da a Digonol. Fodd bynnag, nid yw’r Hen Harbwr na Bae’r Tŵr Gwylio wedi’u dynodi’n ddyfroedd ymdrochi ac nid ydynt felly’n cael eu monitro gan CNC.

Gall unrhyw un awgrymu traeth neu safle mewndirol i’w ddynodi’n ddŵr ymdrochi. Er enghraifft, cafodd traeth Llanilltud Fawr ei ddynodi’n lleoliad ymdrochi yn ddiweddar yn dilyn cais ac ymgynghoriad gan Lywodraeth Cymru. Mae bellach yn destun monitro a samplu rheolaidd gan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Fel arfer, dylai'r cais ffurfiol gael ei wneud gan yr awdurdod lleol ar gyfer yr ardal neu dylai gael ei gefnogaeth, gan y bydd ganddo gyfrifoldebau penodol i'w cyflawni o dan y Rheoliadau Dŵr Ymdrochi.

Mae canllawiau Llywodraeth Cymru yn nodi sut i wneud cais i ddynodi dyfroedd ymdrochi.

2.     Camau gweithredu gan Lywodraeth Cymru

Yn ei hymateb i’r ddeiseb hon, dywed y Gweinidog Newid Hinsawdd ei bod wedi cyfarfod â Dŵr Cymru i drafod “[p]ryderon sydd wedi’u codi gan rai o aelodau’r gymuned leol ynghylch llygredd ym Mae’r Tŵr Gwylio”:

Ers hynny mae fy swyddogion wedi cysylltu â Dŵr Cymru a deallaf fod y trigolion lleol wedi derbyn esboniad Dŵr Cymru mai algae morol o’r enw Phaeocystis sy’n digwydd yn naturiol yw’r ‘slic’ brown. Fodd bynnag, cytunodd Dŵr Cymru y byddai’n ystyried posibilrwydd anfon negeseuon hysbysu amser real ynghylch unrhyw achosion o ollwng o ddau orlif brys (Cold Knapp a Thref y Barri) drwy ap ‘Surfers Against Sewage’.

Mae'r Gweinidog hefyd yn tynnu sylw at y Tasglu Ansawdd Afonydd Gwell,  a sefydlwyd i “sbarduno newid cyflym ac i wella’r ffordd y mae gorlifoedd stormydd cyfun yn cael eu rheoli a’u rheoleiddio” yng Nghymru. Mae'r cynrychiolwyr yn cynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru, Llywodraeth Cymru, Ofwat, Dŵr Cymru, Hafren DyfrdwyAfonydd Cymru a’r Cyngor Defnyddwyr Dŵr

Mae’r tasglu wedi nodi nifer o feysydd i’w newid a’u gwella, a bydd yn cyhoeddi ‘map ffordd gorlifoedd stormydd i Gymru’ ym mis Gorffennaf.

 

3.     Camau gweithredu gan Senedd Cymru

Yn ddiweddar, cynhaliodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith ddarn byr o waith ar ansawdd dŵr a gollyngiadau carthion.

Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad ar orlifoedd stormydd yng Nghymru ar 15 Mawrth 2022, a wnaeth nifer o argymhellion i Lywodraeth Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru. Fe wnaeth Llywodraeth Cymru ymateb ar 9 Mai 2022.

 Cynhaliwyd dadl yn y Cyfarfod Llawn ar 15 Mehefin 2022 ar adroddiad y Pwyllgor.

Cynhaliwyd dadl flaenorol yn y Cyfarfod Llawn ym mis Mawrth 2022 ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod ar effaith gorlifoedd stormydd. Derbyniwyd y cynnig.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.